Oedden nhw'n sôn am eira tua pythefnos yn ôl, ond wnaeth hi ddim bwrw yn y pen draw. Felly, pan dudodd rhywun wrtha i ddoe fod hi i fod i fwrw eira heddiw, doeddwn i ddim yn disgwyl fawr.
Pan ddeffroes i bore 'ma, darganfues i fod hi wedi bwrw dros nos. Dim llawer, ond eira beth bynnag! Wnaeth hi ddim aros am hir ym Mangor. Dwi'n dallt fod yr eira wedi bod yn llawer drymach yn bellach i'r Dwyrain - gaeth ein dosbarth dawnsio Albaneg ei ganslo heno am fod yr athrawes methu dod i mewn o achos yr eira yn ardal Conwy.
Ddylwn i geisio orffen gweu fy menig a chlawr fy botel dwr poeth cyn iddi bwrw eira eto!
: Go to
blog home : Go to
M-Space home