M-Space: The Blog
Fydd hi'n bwrw eira?
Penwythnos diwetha, oedden nhw'n deud fodhi'n debyg o fwrw eira ym Mangor Ddydd Sul neu Ddyd Llun. Wel, weles i mo eira o gwbl yn y dre, er bod 'na gryn dipyn ar y mynyddoedd a dwi'n dallt bod hi wedi bwrw yn Llundain.
A deud y gwir, 'swn i'n hapus tasai hi ddim bwrw eira o gwbl. Mae'n edrych yn
eitha dlws i ddechrau ond mae'n achosi hen ddigon o drafferth (ac mae fy fflat
yn ddigon oer yn barod!). Wrth gwrs, tasai hi'n bwrw eira, fasai'r sanau dwi newydd gorffen eu gweu wythnos yma yn handi iawn. Gobeithio fydda i wedi gorffen yr het, y menig a'r clawr botel dwr poeth mod i'n gweithio arnynt erbyn iddi actually yn bwrw.
Jyst i orffen ar nodyn random, mi edryches i yng ngeiriadur arlein Llanbedr Pont Steffan i weld sut i syllafu'r gair "maneg" a ddarganfues i mai ystyr arall y gair yw "fylfa". Wyt ti'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd!
[/cymraeg]
permanent link
: Go to
blog home : Go to
M-Space home