NB I'll put a brief summary in English at the end for the benefit of any poor soul reading this who doesn't understand Welsh.
Dwi heb sgwennu rhywbeth yn Gymraeg ar gyfer fy mlog ers talwm. Neithiwr glywes i hanes oedd yn werth chweil ei adrodd, sy'n dangos pwysigrwydd defnyddio acenion yn ofalus yn yr iaith Gymraeg. Dwi'm yn siwr os mae'n wir neu beidio, ond mae'n eitha doniol beth bynnag.
Glywes i am ddau blentyn ifanc roedd yn sgwennu llythyr at Siôn Corn yn ddiweddar. Gan bod ni yn yr unfed ganrif ar hugain, roedden nhw'n defnyddio'r cyfrifiadur i anfon e-bost ato fo. Roedden nhw'n gofyn am beiriant tatŵs (dwi ddim yn hollol siwr beth oedden nhw'n golygu felly, ond rhywbeth sy'n rhoi tatŵ ar eich croen siwr o fod). Yn sydyn, dechreuodd yr hogyn lleiaf grïo a rhedodd ei fam i mewn i weld beth oedd o'i le. Esboniodd y plentyn fod o'n poeni gan fod o'n methu cael hyd i'r llythyr 'ŵ' ar yr allweddell a dywedodd "dwi ddim isio i Siôn Corn dod â pheiriant tatws i ni!".
And now for the translation: it's a (possibly true) story I recently heard about 2 children who were sending an email to Father Christmas to ask for a tattoo machine (peiriant tatŵs - notice the accent on the 'w'). The younger lad got very upset when he couldn't figure out how to get the accented letter on his keyboard, as he didn't want to receive a potato machine (peiriant tatws)! Just goes to show that accents are not purely decorative in languages that use them.
Heddiw yw Dydd Gwyl Dewi Sant. Yn anffodus, dydy hi ddim yn gwyl cyhoeddus yng Nghymru, felly mae rhaid i mi fynd i'r gwaith. Hefyd, dwi'n gorfod cyfadde mod i ddim yn wisgo cennin Pedr a fydda i ddim yn bwyta cawl cennin heddiw. Er mod i ddim yn dathlu per se, dwi'n falch o fod yn Gymro (wel, mae gen i o leia un hen-daid oedd yn dod o Gymru, dwi'n siarad yr iaith ac yn cefnogi'r tîm rygbi a dwi byth isio byw rhywle arall).
Oedden nhw'n sôn am eira tua pythefnos yn ôl, ond wnaeth hi ddim bwrw yn y pen draw. Felly, pan dudodd rhywun wrtha i ddoe fod hi i fod i fwrw eira heddiw, doeddwn i ddim yn disgwyl fawr.
Pan ddeffroes i bore 'ma, darganfues i fod hi wedi bwrw dros nos. Dim llawer, ond eira beth bynnag! Wnaeth hi ddim aros am hir ym Mangor. Dwi'n dallt fod yr eira wedi bod yn llawer drymach yn bellach i'r Dwyrain - gaeth ein dosbarth dawnsio Albaneg ei ganslo heno am fod yr athrawes methu dod i mewn o achos yr eira yn ardal Conwy.
Ddylwn i geisio orffen gweu fy menig a chlawr fy botel dwr poeth cyn iddi bwrw eira eto!
Wel, fasai hi'n gormod ella i wneud bopeth yn Gymraeg, ond ddylwn i geisio siarad neu sgwennu tipyn o Gymraeg bob dydd, rhag ofn mod i'n anghofio'r cwbl lot.
Os dwyt ti ddim yn siarad Cymraeg, druan ohonot ti! Os wyt ti'n fwy lwcus (yn lwcusach?), paid â phoeni - dwi'n debyg i sgwennu am bethau slightly mwy diddorol yn fuan. Mae'n debyg fydda i ddim yn sgwennu lot fawr yn Gymraeg yma, gan fod rhan fwyaf y bobl sy'n debyg o'i ddarlen (fy nheulu yn bennaf, ar hyn o bryd) ddim yn siarad Cymraeg, ond o dro i dro wna i sgwennu rywbeth. Fedri di weld dim ond y postiau yn Gymraeg yma, os wyt ti ddim am ddarllen y rhai Saesneg hefyd.
Hwyl am y tro
: Go to
blog home : Go to
M-Space home